•  image 1

Fframwaith i gefnogi newid positif i’r rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru 2018-2023

Mae’r ‘Fframwaith i gefnogi newid positif i’r rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru 2018-2023’ yn nodi sut y bydd sefydliadau perthnasol yn cydweithio’n agos i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sydd ei hangen.  Mae’n ceisio sicrhau bod canlyniadau positif yn cael eu cyflawni, nid yn unig i gyn-droseddwyr, ond hefyd i’r rheini sydd mewn risg o droseddu, yn ogystal â’u teuluoedd a’n cymunedau.

Mae’r ddogfen yn adeiladu ar lwyddiant Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru 2014-2016 a chafodd ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Ei Mawrhydi yng Nghymru, ar ran Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru gyfan.

Wedi’i ategu gan egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) ac wedi’i hysbysu gan yr agenda Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, mae’r Fframwaith yn alinio blaenoriaethau allweddol partneriaid er mwyn annog mwy o gydweithrediad parhaus ar hyd a lled Cymru.  Mae hefyd yn bwriadu lleihau’r galw ar y gwasanaethau hynny sydd mewn risg o aildroseddu ar y pwynt argyfwng, drwy symud i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar.

Mae’r Fframwaith yn amlinellu chwe grŵp blaenoriaeth i bartneriaid ganolbwyntio eu hymdrechion cydweithredol yn benodol arnynt yn ogystal â’r blaenoriaethau sefydledig ar gyfer y grwpiau ‘risg uchel o niwed’ a ‘risg uchel o aildroseddu’.

  • Merched yn y System Cyfiawnder Troseddol
  • Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
  • Teuluoedd Troseddwyr
  • Pobl Ifanc a Phobl sy’n Gadael Gofal
  • Grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Troseddwyr Cam-drin Domestig

Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu hategu gan ddangosyddion effeithiolrwydd a fydd yn ein helpu i ddeall sut yr ydym yn datblygu dros amser ac yn ein cynorthwyo i ddatblygu dulliau rhannu data aml-asianataeth i fesur ein perfformiad cyfunol yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt.

Mae Bwrdd IOM Cymru wedi croesawu’r grwpiau blaenoriaeth hyn, ac wedi aseinio Uwch Berchnogion Cyfrifol i arwain y gwaith o ddatblygu chwe llif gwaith IOM Cymru yn ystod cyfnod pum mlynedd y Fframwaith.

Cafodd y Fframwaith ei lansio’n ffurfiol ar 19 Ebrill yng Nghaerdydd gan Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol ac mae wedi’i gefnogi gan Dr Phillip Lee, y Gweinidog Cyfiawnder.